Stori Kate a Henry
Helo Kate a Henry ydym ni. Mae gennym ferch sy’n 2 1/2 mlwydd oed o’r enw Brianna, nid yw hi’n gwisgo cewynnau bellach, ond rydym yn disgwyl ein babi nesaf ym mis Mehefin.
Pan o’n i’n disgwyl, ro’n i’n astudio blwyddyn olaf gradd mewn cadwraeth amgylcheddol, ac felly yn edrych ar gewynnau go iawn am resymau ‘gwyrdd’.
Yna, wedi gweld faint o arian y gallai arbed i ni, roedd y penderfyniad yn un hawdd!!
Defnyddiom ni nifer o wahanol fathau o gewynnau ar gyfer Bri - rhai wedi’u plygu yn barod, wedi’u siapio, a rhai gyda’r cyfan mewn un. Yn y diwedd, fe warion ni tua £500 ar gewynnau go iawn, rhwymau, leinwyr a chlytiau golchadwy. Mae’n swnio yn llawer hyd nes i chi weithio allan y byddech yn gwario tua’r un faint ar gewynnau tafladwy mewn 6 mis! Rydym hefyd yn cael defnyddio’r cewynnau ar y babi nesaf, a’r nesaf, a’r nesaf............!!

