Stori Julie
Helo Julie ydw i. Mae fy merch fach i wedi bod yn defnyddio cewynnau golchadwy ers ei bod hi’n 3 mis oed. Yr ofn mwyaf a ges i am fabi newydd oedd cymaint o sbwriel oedd hi’n gallu cynhyrchu - anhygoel o feddwl mai hi oedd yr aelod lleiaf o’r teulu. Roedd y rhan fwyaf o’r pethau ychwanegol na ellir eu hailgylchu yn gewynnau tafladwy a chlytiau, yn llenwi safleoedd tirlenwi.
Ro’n i wedi edrych ar gewynnau golchadwy pan oeddwn yn disgwyl, ond fe ddrysais gyda chymaint o ddewis oedd - doedd dim syniad gyda fi ble i ddechrau. Felly ar ôl i fy merch gael ei geni, fe fentrais i fore nappuccino, a benthyg pecyn prawf. Roedd hi’n braf cael cwrdd â rhieni eraill sy’n defnyddio cewynnau golchadwy (i’m cysuro nad oeddwn i wedi mynd yn wallgo’). Ro’n i’n hoffi rhai o’r cewynnau yn fy mhecyn prawf, tra bod rhai eraill yn anaddas i fy merch fach i. Wedi’r cyfan, mae pawb wedi trio 3 phâr o drowsus ymlaen mewn siop a dim ond un sy’n ffitio!

Dewisais y rhai wedi’u plygu’n barod i ddechrau, ynghyd â rhai dal i gyd mewn un. Ond, fe sylweddolais fod cewynnau clwt yn gallu troi yn obsesiwn, a ni allwn atal fy hun rhag prynu rhagor fan hyn a fan draw, dim ond i weld sut fydden ni’n eu hoffi. Wrth i fy merch fach ddod yn fwy symudol, gwelais fod y rhai wedi’u plygu’n barod yn gweithio mor dda. Daeth hi hefyd i arfer ag agor y felcro yn ddigon hawdd, a oedd yn cyfyngu ar beth y gallai hi wisgo yn ystod yr haf, pan mae hi’n mynd heb wisgo fest. Ond, hyd yn hyn dyw hi heb lwyddo i agor y rhwymau datod Motherease llif aer, ac rydym yn defnyddio Twt Clwt, Bambinex neu Easypeasy bumbles oddi tano. Mae fy nghewynnau ffyddlon sydd wedi’u plygu’n barod yn dal i gael digon o ddefnydd, ond bellach rwy’n eu defnyddio mewn cewynnau poced.
Erbyn hyn rwy’n defnyddio clytiau golchadwy gan amlaf - rwy’n cadw pentwr ar bwys y mat newid, ynghyd â phowlen blastig o ddŵr gydag ychydig o fy hoff hylif golchi babi ynddo. Mae’r clytiau yn mynd i mewn i’r un golch â’r cewynnau. Dyw golchi yn ddim problem, mae’r cewynnau brwnt yn cael eu cadw mewn bwced a chaead arno a rhwyd golchi dillad ynddo; pan fo’r bwced yn llawn mae’r rhwyd yn cael ei godi i’r peiriant golchi dillad. Rwy’n rhoi rins oer iddynt gyntaf gyda finegr gwyn (i ddelio gyda’r gwynt), yna golch ecolegol byr ar 60 gradd.
Beth mae’r un fach yn feddwl? Mae’n ymddangos yn hapus i wisgo ei chewynnau clwt. Yn wir, mae’n dwlu eu tynnu allan i’r drôr i chwarae!
