PRNN Logo
 

Oeddech chi'n gwybod?

Gall cewynnau go iawn arbed llawer o arian i chi a sicrhau bod eich baban yn fwy cyfforddus.


 
Site in English?

Stori Jeni

Jeni, mam Iolo sy’n 4 blwydd oed a Beti sydd bron yn 9 mis oed.

Yn wreiddiol penderfynais ddefnyddio cewynnau golchadwy cyn i Iolo gael ei eni oherwydd yr effaith ar yr amgylchedd, ond sylweddolais fy mod yn arbed llawer o arian hefyd! Arbrofais gyda nifer o wahanol fathau o gewynnau golchadwy ar fy machgen bach a darganfod fod cotwm organig Terry Squares a MotherEase Un Maint yn gweithio’n dda iddo.

Pan gafodd Beti ei geni roeddwn yn defnyddio mwslin plyg gyda ProWrap gan amlaf a leiniwr cnufog ond roeddwn hefyd yn defnyddio cewynnau Velcro Shaped (Little Lamb), Poppered Shaped (Bimble, MothereEase) Pre Folds (Bambino Mio, ElliPants), a All in one (padiau microffibr Wonderoo) gydag ambell i gewyn ecolegol sy’n cael ei daflu gyda’r nos pan wedi blino’n lân ar ôl newid 2 waith neu fwy.

Bellach, rwy’n defnyddio cewynnau golchadwy drwy’r adeg - MotherEase un maint (rhai Iolo) gyda’r fersiwn Bambŵ adeg y nos a Sgwariau Bambŵ terry gyda Motherease wraps (rhai Iolo hefyd).