PRNN Logo
 

Oeddech chi'n gwybod?

Gallwn gynnig pecynnau profi yn cynnwys nifer o wahanol fathau o gewynnau i chi eu benthyg a’u profi am wythnos neu ddwy.


 
Site in English?

Stori Gayle

Helo!
Gayle ydw i ac rwy’n cyfaddef fy mod yn gewyn - a - holig!

Mae gen i 1 mab, Edward, sy’n 17 mis oed.

Fisoedd cyn i Edward gael ei eni ro’n i’n gwybod fy mod i am ddefnyddio cewynnau go iawn am nifer o resymau, y prif reswm oedd peidio ychwanegu at y miliynau o gewynnau tafladwy sy’n cael eu hanfon i safleoedd llenwi tir. Gwnes lawer o ymchwil ar y we a dod ar draws Rhwydwaith Cewynnau Go Iawn Sir Benfro a oedd newydd gael ei ffurfio er mwyn cynnig cyngor, a sylweddolais yn sydyn y gallen i arbed llawer iawn o arian yn ogystal â lle yn fy min sbwriel.

Fel nifer o bobl sy’n newydd i gewynnau go iawn meddyliais mai’r unig ddewis fyddai ar gael i mi fyddai sgwariau terry fflat a thrôns plastig swnllyd ofnadwy. Ro’n i’n hollol anghywir! Cefais fy synnu ar yr ochr orau gyda’r nifer enfawr o gewynnau sydd ar gael a does dim syniad gen i lle i ddechrau. Wedi edrych ar lawer o wefannau cewynnau a gofyn i rieni oedd yn defnyddio cewynnau go iawn yn barod penderfynais ar gewynnau Motherease Un Maint sy’n addas i fabi newydd ei eni hyd at adeg hyfforddi i fynd i’r toiled; golyga hynny mai ond un set o gewynnau (gyda rhwymau gwahanol faint) oedd eu hangen arna i ar gyfer y cyfnod cyfan y byddai Edward yn gwisgo cewynnau. Penderfynais mai rhain oedd yr opsiwn gorau i mi er mwy osgoi gorfod prynu meintiau gwahanol wrth i Edward dyfu.

Ganwyd Edward ym mis Medi 2006 a dechreuais ar fy mlynyddoedd o newid cewynnau.
Rhaid i mi gyfaddef am y mis cyntaf y defnyddiais eco gewynnau tafladwy gan fy mod yn teimlo fod digon o bethau eraill gen i i’w gwneud fel mam newydd. Wedi 4 wythnos teimlais fod gennym ddigon o drefn a’n bod yn barod i ddefnyddio ein cewynnau newydd sbon yr o’n i wedi’u golchi rhyw 3 neu 4 gwaith i baratoi.
Ar ôl eu defnyddio am ychydig o ddyddiau ro’n i’n siomedig na’u defnyddiais o’r cychwyn cyntaf gan eu bod mor hawdd i’w defnyddio a fy mod yn dwlu ar sut oedd Edward yn edrych ynddynt. Roedd hefyd yn ymddangos ei fod e’n eu hoffi. Roedd gen i 20 cewyn a oedd yn golygu eu golchi bob yn ail ddydd yn yr wythnosau cynnar, ond nid oedd hynny’n broblem o gwbl. Mae cymaint o olch i’w wneud gyda babi newydd, dyw golch ychwanegol bob yn ail ddydd ddim yn gwneud dim gwahaniaeth.

Defnyddiais y cewynnau Motherease yn ddigon bodlon am sawl mis ac yna mewn Nappuccino Rhwydwaith Cewynnau Go Iawn Sir Benfro clywais fod swydd ran amser ar gael. Bues yn ddigon lwcus i gael y swydd, ac yna dechreuodd fy obsesiwn go iawn! Fel cydlynydd pecynnau prawf cefais drio llawer o wahanol gewynnau ar Edward a darganfod fod Fuzzi Bunz yn wych ar gyfer dyddiau allan (un darn yn lle dau felly mae llai i’w gario), Bumbles yn gewyn da i’r haf, Minki Huggles yn wych adeg y nos, yn enwedig ar gyfer Edward sy’n gwlychu’n drwm, ni ddylai’r rhwymau cnufog weithio, ond maen nhw! Sylweddolais nad yw cewynnau poced yn gweithio i ni (roedd yn gollwng ar adegau) a bod Motherease Wraps yn ein gweddu ni’n dda.

Gallaf gyfrif ar un llaw sawl gwaith mae Edward wedi gollwng mewn cewynnau go iawn ac mae hyn fel arfer wedi digwydd oherwydd nad ydym ni wedi bod yn ddigon gwyliadwrus wrth archwilio darn amsugnol y cewyn sydd wedi’i osod tu fewn y rhwymyn dal dŵr, neu oherwydd nad ydym ni wedi ei newid yn ddigon aml (Mam wael, a bod yn deg imi mae Edward yn yfed dŵr fel ei fod newydd gerdded drwy anialwch!)
Dim ond dwywaith mae wedi cael brech cewyn a bu’r ddau dro yn gysylltiedig gyda thorri dannedd ac rwy’n sicr y byddai wedi cael y frech mewn cewyn tafladwy hefyd..

Wrth feddwl am gewynnau go iawn ar y dechrau ro’n i’n poeni ynglŷ·n â’r baeddu gan nad ydw i’n or hoff o hylifau corfforol! Ond, mae gallu pigo’r leiniwr i fyny a’i olchi i lawr y toiled (leinwyr papur) a’i rinsio allan (leinwyr cnufog) yn llawer iawn llai o brofiad ofnadwy i mi na gorfod agor bin a chlywed gwynt wythnosau o gewynnau tafladwy brwnt. Rwy’n storio fy nghewynnau go iawn brwnt gyda chlwtyn mwslin wedi’i wlychu gydag olew lafant, felly'r unig wynt rwy’n clywed wrth agor y bin cewynnau yw lafant.

Mae fy nghasgliad o gewynnau mor fawr erbyn hyn nes bod efallai angen ystafell arall i’w storio. Diolch byth, mae fy ail fabi yn cyrraedd ym mis Gorffennaf 2008. Esgus perffaith i mi ddefnyddio’r cewynnau prydferth ar gyfer babanod newydd eu geni!