Stori Celia
Helo, Celia ydw i ac mae gen i fachgen 18 mis oed o’r enw Devon. Fe symudom ni i Sir Benfro tua 2 flynedd yn ol, er mwyn dechrau ein busnes ein hunain. Bu pethau’n dawelach na’r disgwyl, yn enwedig ers i Devon gael ei eni
Pan oeddwn yn disgwyl, un o’r cwestiynau roedd pobl yn eu gofyn i mi weithiau oedd pa gewynnau yr oeddwn i’n mynd i’w defnyddio. Y sgwrs yma a gyflwynodd fi i Jeni, un o’r cydlynwyr cewynnau go iawn yn Sir Benfro. Penderfynais ddefnyddio cewynnau golchadwy cyn i Devon gael ei eni, oherwydd ro’n i’n meddwl y byddai’n rhatach, yn well i’r amgylchedd ac os oedd fy mam innau wedi ymdopi ro’n i’n siŵr y gallwn i hefyd. Ers hynny rwyf hefyd wedi darganfod y gallai fod yn well i’w iechyd hefyd.

Pan ddewisais pa gewynnau i’w defnyddio fe es am yr opsiwn rhataf, sef sgwariau mwslin a rhwymyn dal dŵr. Roeddent yn hawdd i’w defnyddio ac yn sychu mewn dim amser. Nawr fod Devon yn fwy rwy’n defnyddio sgwariau tywelin bambŵ a rhwymyn dal dŵr. Mae’r rhain eto yn opsiwn rhad sy’n sychu’n gyflym. Byddwn yn argymell i unrhyw un sy’n meddwl am drio cewynnau go iawn i roi tro arni, beth yw’r peth gwaethaf all ddigwydd!

