PRNN Logo
 

Oeddech chi'n gwybod?

Gall cewynnau go iawn arbed llawer o arian i chi a sicrhau bod eich baban yn fwy cyfforddus.


 
Site in English?

Newyddion a digwyddiadau

Mae adroddiad newydd a gomisiynwyd gan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, Asiantaeth yr Amgylchedd, a Rhaglen Gweithredu'r Cynllun Gwastraff ac Adnoddau Llywodraeth y D.U. yn dweud bod rhieni sy’n defnyddio cewynnau golchadwy, sy’n golchi llwyth llawn, yn rhoi eu dillad i sychu ar y llinell olchi ac sy’n ailddefnyddio cewynnau ar ail blentyn, yn gallu lleihau eu heffaith ar gynhesu byd-eang gymaint 40%, neu oddeutu 200kg o garbon deuocsid dros ddwy flynedd a hanner.
Mae Cymru Gynhaliol wedi cyfrifo pe byddai’r holl blant a enir yn yr un flwyddyn yng Nghymru yn defnyddio cewynnau go iawn yn y modd hwn, byddai oddeutu 6200 tunnell yn llai o garbon deuocsid yn cael ei ryddhau i’r atmosffer.*
Dywedodd Sian Dando, llefarydd ar ran yr Ymgyrch Cewynnau Go Iawn: “Mae’n wych bod yr adroddiad hwn wedi amlygu’r sefyllfa i rieni ynglŷn â sut y gallent leihau eu hôl troed carbon drwy ddefnyddio cewynnau go iawn yn hytrach na chewynnau untro. Gallant wneud hyn drwy ddewis offer sy’n defnyddio ynni yn fwy effeithlon, drwy beidio â golchi ar dymheredd uwch na 60°c a thrwy ddefnyddio’r peiriant sychu dillad gyn lleied â phosibl”.
“Yn rhyfeddol, un effaith o ganlyniad i glytiau untro nad oedd wedi’i gynnwys yn yr adroddiad oedd yr effaith y maent yn eu cael ar y safleoedd tirlenwi, sy’n prysur brinhau. Mae tua 38,000 tunnell o glytiau untro yn cael eu rhoi mewn safleoedd tirlenwi bob blwyddyn, sy’n costio tua 2 filiwn o bunnoedd i drethdalwyr Cymreig i gael gwared arnynt. Mae clytiau untro hefyd mewn safleoedd tirlenwi yn cyfrannu at lefelau cynyddol ac arswydus o fethan. Mae methan 21 gwaith yn fwy pwerus na CO2 am gynhesu’r atmosffer ac o ganlyniad, yn nwy tŷ gwydr a allai fod yn beryglus”, meddai Margaret Minhinnick, Cyfarwyddwr Cymru Gynhaliol.
Aeth Sian Dando yn ei blaen i ddweud “Mae’r neges yn glir, cyn belled â bod rhieni yn dilyn y canllawiau syml, fel golchi ar dymheredd o 60°C neu'n is na hynny, a sychu eu dillad ar y llinell olchi, gall yr amgylchedd wella’n sylweddol o ran lleihau nwyon tŷ gwydr a gwastraff y cartref a anfonir i’r safle tirlenwi.”
Mae’r Ymgyrch Cewynnau Go Iawn yng Nghymru yn annog defnyddio cewynnau golchadwy drwy ddarparu gwybodaeth a chyngor diduedd i rieni ar ddefnyddio a phrynu cewynnau golchadwy.
Am wybodaeth bellach ewch i www.realnappies-wales.org.uk neu ffoniwch Sian Dando – Swyddog Datblygu Cewynnau Go Iawn ar 0845 456 2477.

Ffeithiau go iawn am gewynnau go iawn
•Yng Nghymru teflir 200 miliwn o glytiau papur i ffwrdd bob blwyddyn – 400 cewyn bob munud (3 biliwn yn y D.U.)
•Bydd babi sy’n cael ei annog i ddefnyddio poti yn mynd trwy 4,000-6,000 cewyn
•Gall defnyddio cewynnau go iawn gostio cyn lleied â hanner pris cewynnau untro – a gellir eu hailddefnyddio gyda phlant dilynol i arbed hyd yn oed mwy o arian. Cyfartaledd yr arbedion yw £500 i’r baban cyntaf
•Gall teuluoedd ag un baban gwtogi eu gwastraff yn hanner drwy ddefnyddio cewynnau go iawn
•Bydd cewynnau untro un baban o’i flynyddoedd cewyn yn llenwi o gwmpas 156 o fagiau sbwriel du
•Defnyddio ynni: Argymhellir y dylai rhieni olchi cewynnau budr ar lwyth llawn ar 60oC gan ddefnyddio peiriannau golchi â graddiant ynni isel, a’u gadael i sychu’n naturiol lle mae hynny’n bosibl. Nid oes rhaid i gewynnau golchadwy gael eu socian cyn eu golchi, ac nid oes angen eu smwddio, chwaith

Y cyngor yn ymateb

Rydym yn falch o glywed bod cyngor Sir Benfro yn ymrwymo o ddifrif i hyrwyddo’r defnydd o glytiau go iawn a’u bod wedi penodi cydgysylltydd clytiau go iawn. Noder os gwelwch yn dda nad yw rhwydwaith clytiau go iawn Sir Benfro yn gorff sy’n gysylltiedig â’r cyngor a’i fod yn cael ei redeg yn llwyr ar sail wirfoddol. Am fwy o wybodaeth am gynlluniau’r cyngor ymwelwch â Cyyngor Sir Benfro



Byddwn yn falch i glywed oddi wrth wirfoddolwyr!

Mae ein cyfnod ariannu Cynllun Ailgylchu Strategol (Amcan Un Ewropeaidd) yn dod i ben. Bellach, ni fydd staff taledig yn rhedeg y prosiect, ond ein gobaith yw parhau gyda’n gwahanol weithgareddau fel tîm o wirfoddolwyr, yn cynorthwyo rhieni a gofalwyr eraill yn Sir Benfro i weld buddiannau defnyddio cewynnau golchadwy. Byddwn yn falch i glywed gennych os hoffech gymryd rhan - efallai drwy ddosbarthu ychydig o daflenni yn eich meddygfa neu siop leol, drwy helpu adeg bore coffi neu drwy roi cyflwyniad i grŵp o rieni disgwylgar! Cysylltwch, da chi, beth bynnag yw’r amser allwch roi i gymryd rhan.