Sanpro
Rydym wedi cynnwys y dudalen hon oherwydd bod nifer o fenywod yn teimlo fod nwyddau misglwyf golchadwy yn ddewis naturiol unwaith iddynt ddarganfod cewynnau go iawn. Er bod lle i damponau a thywelion sy’n cael eu taflu, efallai yr hoffech ystyried…
- Fod y fenyw gyffredin yn y byd 'datblygedig’ yn defnyddio tua 10,000 o eitemau o’r fath yn ystod ei bywyd. Gallwch arbed llawer o arian wrth ailddefnyddio sanpro.
- Ei bod yn cymryd 6 mis i dampon fioddiraddio, gall tywel misglwyf plastig bara am gyfnod amhendant. Mae’r adrannau plastig yn creu sbwriel ar ein traethau, gan niweidio bywyd gwyllt arfordirol a dyfrol. Llifolchi darpariaeth mislif sy’n achosi 75% o ddraeniau wedi’u blocio.
- Nad yw tamponau yn ddi-haint, maent yn gadael ffibrau a all ddenu bacteria ac maent wedi’u cysylltu â Syndrom Sioc Wenwynig, a all fod yn angheuol.
- Yn y DU rydym yn prynu mwy na 3 biliwn o eitemau sanpro all gael eu taflu i ffwrdd bob blwyddyn: yn 2001 fe wariwyd £370 miliwn arnynt
Mae gan dywelion misglwyf golchadwy adenydd a phopiwr arnynt ac maent ar gael mewn ffabrig cnufog diddorol sy’n aros yn sych. Mae nifer o frandiau wedi’u gwneud â llaw ar gael felly gallwch gefnogi Work At Home Mums Prydeinig pan fyddwch yn prynu.
Yn hytrach na thamponau, efallai yr hoffech drio Mooncup neu Keeper. Maent yn dal gwaed mislifol yn fewnol, rydych chi yn eu tynnu allan yn syml, eu golchi a’u hailosod. Cwpan silicon meddal yw’r Mooncup gyda choes er mwyn eu tynnu allan.
Ble i brynu
Y Keeper
Cwpan rwber naturiol sy’n cael ei wisgo’n fewnol, yr un meintiau â Mooncup.
Nwyddau Plant Lollipop: Rhif Ffôn: 01736 799513
Mae Lollipop yn cynnig dewis o dywelion cnufog gyda haenau o gotwm terry ar gyfer amsugnedd, gydag adenydd a phopiau arnynt. Safonol , mawr a leiniwr nicer.
Mae pecyn dechrau Imse Vimse yn cynnwys tywel 2 ran wedi'i wneud o gotwm heb ei gannu ac adenydd dal gyda phopiau sy’n dal amrywiaeth o dywelion amsugnol.
Gall Lollipop hefyd gyflenwi Mooncup.

Mooncup: Rhif Ffôn: 01273 673845
Cwpan silicon sy’n cael ei wisgo’n fewnol ar gael mewn 2 faint: B- cyn geni plentyn neu A- ar ôl geni plentyn. Maent yn cynnig prawf arian yn ôl am dri mis.

Natural Child: Rhif Ffôn: 01242 620988/445
Stocio tywelion Luna pad, Eco-Femme a Popolini. Maent oll yn dywelion 2 ran gyda systemau mewnosod tywel. Hefyd yn stocio Mooncup a Keeper.
Plush Pants: Rhif Ffôn: 01865 408040
Tywelion Wemoon - y cyfan mewn snapiau addasadwy ar yr adenydd.
Lliwiau ac atodolion gwych, amsugnedd yn amrywio rhwng ysgafn a thrwm (hefyd yn addas ar gyfer anymataliaeth yn ymwneud â straen)
