![]()
Gwybodaeth am gewynnau
Pan defnyddio cewynnau go iawn?
Maent yn well i’r amgylchedd: mae pob plentyn sy’n defnyddio cewynnau tafladwy yn rhoi 5,500 cewyn mewn safle llenwi tir dros 2.5 blwyddyn, - gyda’r rhan fwyaf yn cael eu rhoi mewn safle llenwi tir. Credir na fyddant yn fioddiraddiadwy am gannoedd o flynyddoedd.
Defnyddir un cwpan o olew crai wrth wneud pob cewyn tafladwy.
Does dim cemegau na geliau mewn cewynnau clwt ac maent yn naturiol yn caniatáu anadlu.
Mae’n well i’r waled: gall gostio dros £1000 i ddefnyddio cewynnau tafladwy a dim ond £400 ar gyfer cewynnau golchadwy gan gynnwys costau golchi, hyd yn oed yr ynni, dwr a’r glanedydd ar gyfer eu golchi. Yn ein profiad ni, nid yw’n cymryd fawr ddim amser.
Maent yn gollwng yn llai aml na chewynnau tafladwy ac maent yn dod mewn nifer o wahanol siapau a meintiau, sy’n ei gwneud hi’n hawdd chwilio ffit dda i’ch baban.
Gellir eu defnyddio ar gyfer mwy nac un babi.
Maent yn gymaint delach na rhai tafladwy!
Faint fydd eu hangen arna i?
Yn fras iawn, ar gyfer baban ifanc byddwch angen 20-24 cewyn a 4-5 rhwymyn os yn defnyddio system dau ran. Ar gyfer babanod ar fwydydd solet dylai 15-18 cewyn a 3-4 rhwymyn fod yn ddigon. Byddwch hefyd angen bwced ar gyfer storio cewynnau gwlyb ac wedi’u trochi nes eich bod yn barod i’w golchi.

Y prif wahanol fathau o gewynnau:
Cewynnau fflat
Wedi’u gwneud o dywelin tery (teris) neu gotwm (wedi’u plygu yn barod) sy’n cael eu plygu a’u gorchuddio gan orchudd dal dŵr sy’n caniatáu anadlu. Gellir dal terry yn ei le gan ddefnyddio grip plastig syml (nappy niper) yn hytrach na phin cau.
Mae rhai sydd wedi’u plygu yn ffit fain; mae gan y cewyn ganol sydd wedi’i blygu a’i bwytho yn barod, yna caiff ei blygu i mewn i bad ac mae’n ffitio tu fewn i rwymyn sydd wedi’i gynllunio ar ei gyfer.
Cost:
O tua £2 am gewyn, £5 am rwymyn
Manteision:
- gwerth gorau am arian a gellir eu defnyddio ar gyfer mwy nac un babi
- amsugnol
- y cyflymaf yn sychu
- ar gael mewn siopau ar y stryd fawr
- amlbwrpas – plygu mewn gwahanol ffyrdd ar gyfer anghenion y baban e.e. mwy o amsugnedd yn ystod y nos.
Anfanteision:
- gall plygu teris fod braidd yn drafferthus ar y dechrau ac nid ydynt cystal ar gyfer plentyn hŷn sy’n weddol fywiog..
Cewynnau wedi’u siapio

Dim angen plygu. Maent wedi’u plygu a’u ffitio gyda choesau a chanol meddal, elastig.
Ar y cyfan, maent yn ffit fwy twt na sgwariau terry ac yn hawdd iawn i’w gwisgo. Mae’r rhan fwyaf yn cau gyda felcro neu bopiwr. Y prif feintiau yw ‘un maint’ (o’r geni i’r toiled) neu ‘feintiau’ (bach, canolig, mawr a hyd yn oed mawr iawn). Maent yn golchi a sychu yn hawdd, er bod rhai deunyddiau yn cymryd yn hirach i sychu nac eraill. Bydd angen rhwymyn dal dŵr ar wahân ar gyfer pob cewyn wedi’u siapio.
Cost:
Mae’r cewynnau wedi’u siapio a’r rhwymau i’w gorchuddio yn dechrau o tua £6-£7 yr un.
Manteision:
- hawdd i’w gwisgo, golchi a sychu
- mae’r popwyr a’r felcro yn golygu y gallwch newid y cewyn yn ôl maint eich baban, gan eu gwneud yn fwy dibynadwy
- ar gael yn eang
- gellir eu defnyddio ar gyfer mwy nag un baban
Anfanteision:
- gall cewynnau geni-i’r-toiled a rhai brandiau fod yn eithaf swmpus ar faban newydd ei eni
- oni bai eich bod yn prynu un maint, bydd angen i chi brynu meintiau yn fwy wrth i’r baban dyfu
- drutach na chewynnau fflat
Cewynnau Poced
Rhwymau yw’r rhain gyda phoced y gallwch osod unrhyw badiau ynddi ee teris plyg, mewnosodion siapiedig, rhagblygiadau neu badiau rydych wedi’u gwneud eich hunan allan o ffabrigau amsugnol; fel creu cewyn y cyfan yn un. Nid oes angen rhwymyn gorchudd ar wahân gan fod hwn yn y cynllun yn barod. Maent yn hylaw iawn gan y gallwch ychwanegu padiau dros nos a defnyddio llai yn ystod y dydd. Mae’r padiau mewnosod yn sychu’n gyflym ar ôl eu golchi. Ar gael mewn opsiynau un-maint neu sawl-maint.
Cost:
O tua £10 yr un; mewnosodion arbennig o tua £2.
Manteision:
- rhwydd i’w gwisgo, golchi a sychu
- defnyddiol wrth fynd allan neu yn y feithrinfa gan y gellir eu paratoi ymlaen llaw
- hylaw iawn.
Anfanteision:
- yn ddrutach na chewynnau dau-ran
- oni bai eich bod yn prynu un maint, byddwch angen meintiau mwy wrth i’r baban dyfu
Cyfan yn un

Hawdd iawn i’w defnyddio a’r rhai agosaf i gewynnau tafladwy o ran eu cynllun. Mae cewynnau cyfan yn un wedi cael eu siapio a’u ffitio, gyda’r cewyn a’r gorchudd wedi’u glynu at ei gilydd yn barod, yn hytrach na’u bod yn haenau ar wahân. Dim ond ar gael mewn meintiau ar wahân (sawl maint).
Cost:
O tua £12 yr un
Manteision:
- y cewynnau lliain rhwyddaf i’w gwisgo
- addas ar gyfer sefyllfaoedd gofal plant ee gwarchodwyr babanod neu bobl nad ydynt yn hyderus yn defnyddio cewynnau lliain
Anfanteision:
- ddim yn para cystal â systemau dau ran
- angen mwy o amser i’w sychu
- byddwch angen meintiau mwy wrth i’r baban dyfu
- y rhai drutaf.
Rhwymau
Caiff rhwymyn dal dŵr ei wisgo dros gewynnau fflat neu siapiedig (nid gyda rhai poced neu gyfan yn un). Mae’r rhan fwyaf yn feddal, gwydn, anadladwy a gellir eu golchi mewn peiriant. Mae’r ffabrigau’n amrywio o neilon dal dŵr i boliestr, cotwm neu wlân. Mae cynlluniau yn amrywio o rai popiwr a ffasnin Felcro i rai tynnu-mlaen: mae pob un ohonynt yn addas ar gyfer newid cewynnau’n gyflym a didrafferth.
Cost:
O tua £5.
Leinwyr
Gellir rhoi leinwyr papur biodiraddiadwy (llifolchadwy) neu leinwyr golchadwy (cotwm, sidan a chnufog) y tu fewn i gewynnau i ddal solidau. Ar ôl newid y cewyn nid oes ond rhaid cael gwared â’r cynnwys a’i olchi i lawr y toiled (leinwyr llifolchadwy) neu lifolchi’r solidau a golchi’r leiniwr gyda’ch cewynnau (leinwyr golchadwy). Os ydynt ond yn wlyb ond heb eu trochi, gellir hyd yn oed golchi rhai leinwyr biodiraddiadwy i’w hail-ddefnyddio. Cost leinwyr biodiraddiadwy yw tua £3 am 200, ac mae leinwyr golchadwy yn costio tua £2 yr un.
