![]()
Gofalu am Gewynnau
Faint o gewynnau fydda i eu hangen?
Mae’n dibynnu ar ba fath o gewynnau rydych chi’n eu defnyddio (mae rhai’n cymryd mwy o amser i sychu nac eraill) a sut rydych yn eu golchi a’u sychu (mae defnyddio peiriant sychu yn eu sychu’n gyflymach ond mae’n ychwanegu at gostau ac yn defnyddio mwy o ynni).
Mae’r rhan fwyaf o bobl angen 15 i 25 cewyn a 4 rhwymyn.
Beth arall fydd ei angen arna i?
Bwced gyda chaead yn ffitio’n dda i storio cewynnau gwlyb/brwnt nes eich bod yn barod i’w golchi (mae’r rhain ar gael o’r rhan fwyaf o siopau nwyddau cartref).
Ychwanegion Dewisol
Mae rhoi cwdyn rhwyllog llinyn tynnu yn y bwced yn golygu y gallwch godi’r cewynnau i mewn i’r peiriant golchi heb orfod gafael rhyw lawer ynddynt.
Leinwyr cewynnau – naill ai bapur llifolchadwy, sy’n mynd yn syth i lawr y toiled, neu gnu, y mae solidau’n syrthio oddi arno’n rhwydd i mewn i’r toiled. Mae leinwyr hefyd yn cadw’r baban yn sychach. Gellir gwneud leinwyr cnu allan o unrhyw hen ddarn o ffabrig cnu.
Cadachau golchadwy: os ydych yn defnyddio cewynnau go iawn, mae’n syniad da defnyddio cadachau golchadwy hefyd. Gallwch eu prynu, neu ddefnyddio hen wlanen, torri tywelion neu lieiniau sychu llestri ac ati. Gallwch eu golchi gyda’r cewynnau!
Golchi cewynnau go iawn
Golchwch ar 40ºC os yw’r cewynnau wedi cael eu mwydo neu ar 60ºC os nad ydynt. Bydd ychydig ddiferion o olew coed te (ddim yn addas ar gyfer cewynnau lliw) yn y bwced neu’r cylch rinsio, neu lwy fwrdd o finegr gwyn yn y cylch rinsio, yn glanweithio cewynnau. Does ond angen hanner faint o bowdr golchi sy’n cael ei awgrymu. Mae meddalydd ffabrig yn caenu’r cewyn ac yn ei wneud yn llai amsugnol.
Rhai awgrymiadau defnyddiol ar gyfer gofalu am gewynnau golchadwy

Ie:
Ceisiwch ddefnyddio peiriant golchi gradd A am effeithlonrwydd ynni a defnyddio leinwyr sych gymaint ag y gallwch - newyddion da i’ch poced ac i’r amgylchedd.
Golchwch gewynnau ar 60°C neu’n is, gan ddibynnu ar ba mor frwnt ydynt ac a ydych wedi’u mwydo.
Golchwch rwymau ar 40°C os gallwch fel eu bod yn para’n hirach.
Golchwch rwymau cnu ar wahân i gewynnau i atal clymu – gellir eu golchi gyda dillad.
Defnyddiwch hanner y glanhaydd sy’n cael ei awgrymu, anfio, glanhaydd amgylcheddol weddus neu beli Eco os gallwch.
Ychwanegwch ychydig ddiferion o finegr gwyn os oes angen, yn lle cyflyrydd ffabrig, i helpu cael gwared â chalch ac amhureddau eraill sy’n gwneud i’r ffabrig deimlo’n galed.
Gwnewch rins ychwanegol neu golchwch heb lanhaydd bob hyn a hyn i wneud yn siŵr fod y glanhaydd yn cael ei rinsio’n iawn, i osgoi cewynnau’n drewi o amonia (ychydig o ddŵr mae peiriannau cyfoes yn ei ddefnyddio).
Sychwch yn yr haul i’w sterileiddio fwy fyth a’u cannu ac yna’u cadw mewn cwpwrdd crasu os oes modd i wneud yn siŵr eu bod yn gwbl sych ac yn gynnes braf wrth eu rhoi ar ben ôl!
Os ydych yn defnyddio peiriant sychu ychwanegwch dywel sych i leihau’r amser sychu.
Na:
Berw olchi, does dim ei angen, mae’n cymryd amser, yn costio arian ac mae cewynnau siapiedig yn gallu dirywio
Defnyddio cyflyrwyr ffabrig. Maen nhw’n gwneud y cewynnau’n llai amsugnol trwy gaenu’r ffabrig gyda sylwedd tebyg i gŵyr
Golchi’r gorchuddion dal dŵr bob tro rydych yn newid cewyn oni bai eu bod yn frwnt. Os ydynt yn llaith, gellir sychu drostynt a’u crasu.
Rhoi rhwymau neu gewynnau cyfan yn un ar reiddiaduron gan fod gwres uniongyrchol yn gallu difrodi eu rhinweddau dal dŵr
Mwydo
Does dim angen mwydo cewynnau golchadwy – gellir eu cadw mewn bwced sych gyda chaead, er y dylid rinsio unrhyw fryntni allan i ddechrau. Fodd bynnag, os ydych yn cadw cewynnau mewn bwced am fwy na 48 awr, bydd eu mwydo mewn toddiant yn lleihau unrhyw arogleuon.
Mae mwydo hefyd yn gallu helpu atal staenio cewynnau, yn enwedig gyda babanod newydd anedig. Ceisiwch ychwanegu un o’r canlynol i fwced o ddŵr:
1 llwy fwrdd bicarbonad o soda
2-3 llwy fwrdd finegr gwyn
5 diferyn o olew coed te (ddim ar gyfer cewynnau lliw)
2 llwy fwrdd sudd lemwn
Gallech hefyd roi cynnig ar rwbio bar o sebon gwyn ar ddarn gwlyb, neu roi’r cewynnau i sychu yn yr haul, gan y bydd hynny’n cannu’r staeniau.
Mae glanweithwyr cewynnau masnachol (fel nappy san) hefyd ar gael yn y rhan fwyaf o archfarchnadoedd, ond maen nhw’n aml yn fiolegol a gallant ddifetha’r elastig sydd mewn rhai cewynnau modern. Fodd bynnag, mae glanweithydd cewynnau anfiolegol, gwrthfacteria hefyd ar gael o’r enw Nappy Fresh. Gellir ei brynu trwy werthwyr cewynnau, siopau cyfanfwyd neu ar y we.
Bydd rhoi cwdyn rhwyllog neilon yn y bwced yn ei gwneud yn haws i drosglwyddo’r cewynnau i’r peiriant golchi, a’r cyfan sydd raid ei wneud yw rhoi’r cwdyn cyfan yn y peiriant gyda’r llinyn tynnu ar agor a bydd y cewynnau yn gweithio’u ffordd allan o’r cwdyn wrth gael eu golchi.
Os ydych yn cadw’r cewynnau mewn bwced, gallwch gadw’r bwced sych i arogli’n ffres trwy ychwanegu ychydig ddiferion o olew rhin lafant ar ddarn o gadach bob tro rydych yn ei wagio. Gallech hefyd ddefnyddio olew coed te gan fod lafant a choed te yn cynnwys nodweddion gwrthfacteria fydd yn helpu cadw’ch cewynnau yn lanwaith, ond nid yw hynny’n cael ei argymell ar gyfer rhai mathau o gewynnau a gall babanod bach fod yn sensitif i olew coed te yn arbennig.
Golchi
Gellir golchi cewynnau cotwm yn lanwaith ar 40°C os ydych yn mwydo, neu ar 60°C os nad ydych. Efallai y gwelwch fod rhedeg cylch rhag-olchi bob rhyw ychydig olchiadau yn helpu eu cadw’n wyn. Defnyddiwch hanner faint o bowdr anfio ysgafn sy’n cael ei argymell - mae llawer o bobl yn defnyddio Ecover gan ei fod yn frand gweddol amgylcheddol weddus neu Ecoballs gan eu bod yn defnyddio dull golchi ïonig heb ddefnyddio glanhaydd (sy’n osgoi unrhyw gronni/gwaddod).
Peidiwch defnyddio cyflyrydd ffabrig gan y bydd hynny’n gwneud y cewynnau’n llai amsugnol trwy gaenu’r ffabrig ond gallech ychwanegu finegr gwyn.
Y ffordd orau o ddelio ag arogleuon yw defnyddio dŵr oer. Os yw’ch peiriant yn caniatáu ichi wneud, gwnewch rins oer CYN y prif olchiad gan y bydd hyn yn cael gwared â llawer o’r troeth a’r arogleuon trwm cyn i’r dŵr poeth ddechrau gweithio ar y cewynnau. Mae dŵr poeth yn gallu gwthio’r arogleuon a’r staeniau i mewn i’r defnydd.
Os na allwch wneud hyn ac os oes gan eich peiriant raglen cynolchi poeth rhowch gynnig ar hynny gan ddefnyddio llwy fwrdd o soda golchi (crisialau soda) yn y drôr cynolchi gan fod y rheiny hefyd yn gallu bod yn ddeunydd glanweithio ac yn gallu helpu chwalu’r gwaddodion yn y ffabrig.
Sychu
Mae’r rhan fwyaf o gewynnau cotwm yn sychu’n gyflym iawn - naill ai ar y lein neu yn y tŷ - a gellir rhoi sawl math yn y sychwr. Bydd sychu eich cewynnau mewn sychwr yn gwneud iddyn nhw deimlo’n flewog, feddal braf ond mae hefyd yn gallu golygu eu bod yn para llai ac mae’n defnyddio mwy o drydan. Y ffordd fwyaf economaidd ac amgylcheddol weddus o sychu cewynnau yw ar y lein ddillad. Bydd yr haul yn cannu’n naturiol unrhyw afliwio neu staenio ysgafn ac mae gan gewynnau wedi’u sychu ar y lein arogl ffres, hafaidd, hyfryd. Pan nad yw’r tywydd yn garedig mae llawer o bobl yn defnyddio aerydd ger rheiddiadur, neu’n eu rhoi mewn sychwr am beth amser cyn gadael iddynt sychu’n naturiol. Gall rhoi tywel sych yn y sychwr helpu sychu’r cewynnau’n gyflymach. Mae sychu ar aeryddion dillad ger rheiddiaduron neu dros reiddiaduron yn gallu gwneud i’r ffabrig terry deimlo’n galed ond gall rhoi ysgytwad da i’r cewynnau tra’u bod yn dal ychydig yn llaith helpu eu meddalu.
Bydd rhwymau PUL yn sychu mewn awr neu ddwy ar y lein neu ar aerydd - rhowch ysgytwad da iddyn nhw’n gyntaf i gael gwared â’r diferion. Weithiau mae PUL yn gallu elwa o gael troelliad yn y sychwr i adfywio ei rinweddau dal dŵr ond bydd eu rhoi yn y sychwr yn rhy aml yn golygu na fyddant yn para cystal.
