PRNN Logo
 

Oeddech chi'n gwybod?

Gallwn gynnig pecynnau profi yn cynnwys nifer o wahanol fathau o gewynnau i chi eu benthyg a’u profi am wythnos neu ddwy.


 
Site in English?

Dechrau arni

Unwaith ichi benderfynu defnyddio cewynnau golchadwy, y cwestiwn nesaf yw pa gewynnau i’w dewis a lle i’w prynu.

Pecynnau Prawf - gallwn gynnig pecynnau prawf ar gyfer nifer o fathau gwahanol o gewynnau i chi gael benthyg a’u defnyddio am rai wythnosau (bydd ychydig o gost), er mwyn rhoi cyfle i chi ddarganfod pa fath sy’n eich gweddu chi a’ch babi orau. Mae’r llun yn dangos pecyn prawf nodweddiadol, sydd ar gael mewn amrywiaeth o feintiau rhwng plentyn newydd-eni a phlentyn bach.  Cysylltwch â ni i drefnu pecyn prawf.

Arddangosiadau Cewynnau  - gallwn ddod ag arddangosfa cewynnau i grwpiau fel rhai cyn-geni a dosbarthiadau tylino baban, grwpiau plant bach a digwyddiadau cymunedol - cysylltwch â ni am ragor o fanylion. Cynhelir boreau coffi Nappuccino yn achlysurol gyda’r arddangosfa cewynnau.

Arian - er y bydd cewynnau golchadwy yn arbed cannoedd o bunnoedd i chi yn hirdymor, gall y gwariant cychwynnol fod yn bryder. Dyma ble gall undebau credyd lleol eich helpu drwy drefnu benthyciad cost-isel a chynllun cynilo.

Cysylltwch ag Undeb Credyd Landsker (01834 861381) neu Undeb Credyd Haven (01646 694080) am ragor o wybodaeth.

Weithiau gallwn gynnig arian yn ôl neu dalebau i helpu gyda chost cewynnau golchadwy- arhoswch i weld!

Prynu eich cewynnau  - amser siopa o’r diwedd, edrychwch ar yr opsiynau canlynol:

Cewynnau ail law:
Eisiau prynu neu werthu cewynnau ail law yn lleol? Cysylltwch â ni neu dewch i nappuccino lle mae gennym fwrdd ar werth/ yn angen.

Adwerthwyr Cewynnau Lleol
Edrychwch ar ein Tudalen Adnoddau am adwerthwyr