PRNN Logo
 

Newyddion diweddaraf

Y cyngor yn ymateb

ymrwymiad y cyngor....Darllenwch fwy


Mae angen gwirfoddolwyr

Rydym angen gwirfoddolwyr. Allwch chi helpu?
Darganfyddwch sut


Talebau arian bant

Arian bant i deuluoedd Sir Benfro
Darllenwch ragor


 
SRS Logo
Objective One Logo
Site in English?

Croeso i wefan Rhwydwaith Cewynnau Go Iawn Sir Benfro sy’n llawn Gwybodaeth, Cyngor a Phrofiadau Cewynnau Go Iawn.

Grŵp gwirfoddol ydym sy’n cael ei redeg gan rieni lleol (gan gynnwys Tadau) sy’n tynnu o’u profiadau personol i gynnig cyngor gonest, rhad ac am ddim a diduedd ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb defnyddio cewynnau golchadwy. Cewch fenthyg pecyn prawf gennym i weld sut y byddwch yn ymdopi â defnyddio cewynnau golchadwy.
Cliciwch yma to am ragor o wybodaeth.

Dyma rai o’r rhesymau yr ydym yn defnyddio cewynnau clwt-

  • Maent yn arbed llawer o arian i ni – arbed hyd at £600 (gan gynnwys costau golchi) o’r £1000 y gall gostio i ddefnyddio cewynnau sy’n cael eu taflu dros 2.5 o flynyddoedd. Gellir eu defnyddio drosodd a throsodd gyda brodyr a chwiorydd iau yn ogystal, ac yna’u gwerthu.
  • Hawdd i’w defnyddio gyda felcro neu bopiwr. Nifer yr un siâp â chewynnau sy’n cael eu taflu.
  • Lleihau ein heffaith ar yr amgylchedd drwy greu llai o wastraff mewn safleoedd tirlenwi (mae cewynnau sy’n cael eu taflu i ffwrdd yn creu tua thunnell o wastraff bob blwyddyn) a defnyddio cynnyrch sy’n gofyn am lai o ddŵr, ynni a deunyddiau crai i’w gynhyrchu.
  • Mae’n ddeunydd naturiol sy’n gallu anadlu yn well i groen ein babanod ac nid oes unrhyw gemegau na geliau ynddo..
     

Ymunwch â ni yma - Defnyddio Cewynnau Go Iawn yn barod ond am ledaenu’r gair?  Cysylltwch â ni i weld sut allwch rannu eich profiadau a chymryd rhan.